Ymroddiad llwyr i greu seremoniau unigryw a phersonol i chi…

Dathlu eich personoliaeth chi

Amdanaf i

Mae Menna yn byw yn Sir Ferthyr gyda’i gwraig, Katherine, a’u cath, Mefi. Yn ei swyddi blaenorol, mae Menna wedi mwynhau a dysgu sut i wybod beth sydd yn bwysig i bobl. Pan fu’n gweithio mewn cartref gofal, roedd Menna wrth ei bodd yn gwneud yn siwr bod popeth yn bersonol i’r preswylwyr. Dyma beth mae Menna eisiau gwneud nawr – sicrhau bod eich dathliadau a’ch gwasanaethau yn bersonol i chi. 

Mae Menna yn gweithio dros De-ddwyrain Cymru ac yn medru cynnig gwasanaeth Cymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog.

Angladdau

Mae trefnu angladd i anwylyd yn gallu eich danto, hyd yn oed os ydych wedi trafod cynlluniau gyda nhw cyn iddynt huno. Ydych chi eisiau dathlu bywyd, cydnabod eich colled yn dawel neu cael cymysgedd or ddau? Mae trafod gyda gweinydd hyffordeddig yn gallu helpu i roi trefn ar eich meddyliau ac i rhoi cyfeiriad penodol ar gyfer yr angladd.

Mae dweud hwyl fawr wrth rywun rydych yn ei garu yn dorcalonus, ond wneiff Menna hyn gyda gydag urddas, parch a chariad tra’n adlewyrchu eich credoau a’ch dymunidadau chi a’r ymadawedig.

Prisiau yn dechrau o £200 

Priodasau

Rydych chi’n priodi! Llongyfarchiadau! Mae digonedd i drefnu a hyd yn oed mwy i benderfynu. Wedi diflasu a’r priodasau traddodiadol mewn Capel neu swyddfa gofrestru? Ydych chi’n meddwl am rywbeth mwy fflamllyd sy’n eich adlewyrchu chi fel cwpwl yn well? Mae priodas sy’n cael ei arwain gan weinydd yn rhoi hyblygrwydd i chi i gynnwys beth bynnag yr hoffech. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod eich priodas chi yn rhagori mewn ffyrdd nad oeddech yn meddwl posibl. Dathlwch eich cariad chi, yn eich ffordd chi! 

Yn ystod eich cyfarfod cyntaf – mewn person neu dros y wê, fel sydd well gennych chi - mi fydd Menna yn casglu gwybodaeth amdanoch ac yn creu gwasanaeth bythgofiadwy sydd wir yn adlewyrchu eich chwantau.

Prisiau yn dechrau o £550

Seremoniau enwi

I lawer o rieni, nid yw’r geiriau bedyddio traddodiadol yn teimlio’n naturiol iddyn nhw. Dydy’n nhw ddim yn adlewyrchu pwy ydyn nhw na sut mae nhw’n bwriadu magu eu plant. Mae seremoni enwi yn ffordd anffurfiol a phersonol o gyflwyno eich cwtsh o lawenydd i’r byd. Mae dewis seremoni enwi yn eich galluogi chi i rhoi enw, cynnig bendithion ac enwebu oedolion cefnogol (megis rhieni bedydd).

Gall Menna eich helpu i ddewis barddoniaeth, darlleniadau, ag addewidion gofal a chymorth i’ch plentyn. Gydach gilydd, mi fyddech yn creu seremoni sydd wir yn adlewyrchu chi fel teulu a fydd yn amlinellu eich gobeithion a’ch breuddwydion am ddyfodol eich plentyn.

Prisiau yn dechrau o £250



Dathliadau eraill

Does dim rhaid aros am briodas neu angladd i gyhoeddi eich cariad fel teulu, fel cwpwl neu fel grŵp o ffrindiau. Mae dod at eich gilydd i ddathlu yn rhoi cyfle i greu atgofion hyd oes wrth bondio dros eich cariad a’ch cyfeillgarwch at eich gilydd. Boed i chi ddathlu mabwysiadu plentyn, dathlu graddio neu’n ysu i floeddio eich bod wedi curo cancr, mae marcio eiliadau pwysig ein bywydau yr un mor bwysig a’r dathliadau traddodiadol. Pam oes rhaid byw bywyd fel pawb arall? Gwnewch beth hoffech a beth sy’n teimlo’n iawn i chi.

Gall Menna eich helpu i ffeindio’r geiriau i fynegi eich emosiynau ag i rhoi trefn ar eich foment gwerthfawr. Does dim yn rhy fach pan mae’n dod at deulu.

Prisiau yn dechrau o £120

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.